MEMORANDWM CYDSYNIAD

 

 

Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012  

 

 

Cynnig Cydsyniad

 

1.  “Cynnig  bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2012”

 

Cefndir

 

2.  Gosodwyd y memorandwm hwn gan John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, yn unol â’r trefniadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes ar 7 Chwefror.

 

3.  Mae’r Cynnig uchod wedi’i gyflwyno i geisio cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol ag adran 9(6) Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012. Mae adran 9(6) Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011 yn gofyn am gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gorchymyn o dan adrannau 1 i 5 y Ddeddf honno sy’n gwneud darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol pe bai’n rhan o un o Ddeddfau’r Cynulliad Cenedlaethol.

 

4. Gosodwyd copi o Orchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012 yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth.

 

Crynodeb o’r Gorchymyn a’i Amcanion Polisi

 

5.  Mae’r Gorchymyn yn trosglwyddo swyddogaethau Dyfrffyrdd Prydain i’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd neu Glandwr Cymru yng Nghymru.

 

6.  Corfforaeth gyhoeddus yw Dyfrffyrdd Prydain gyda chyfrifoldeb statudol dros weithredu a chynnal y dyfrffyrdd y maent yn awdurdod mordwyo ar eu cyfer.

 

7.  Ym mis Hydref 2010, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai Dyfrffyrdd Prydain yn symud o fod yn Gorfforaeth Gyhoeddus ac y dylid trosglwyddo swyddogaethau statudol ac asedau Dyfrffyrdd Prydain yng Nghymru a Lloegr i’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

8.  Bwriad symud swyddogaeth ac asedau Dyfrffyrdd Prydain yng Nghymru a Lloegr i gymdeithas sifil drwy greu elusen genedlaethol newydd ar gyfer y dyfrffyrdd yw rhyddhau eu potensial i gynnig manteision i’r cyhoedd, yn ogystal â chynnig y cyfle i ddefnyddwyr y dyfrffyrdd chwarae rôl yn eu llywodraethu. Bydd yn galluogi cymunedau lleol i ddweud eu dweud yn fwy o ran y gofal i’w camlas neu’u hafon leol.

 

9.  Bydd hyn yn rhoi sylfaen ariannol fwy cynaliadwy i’r dyfrffyrdd oherwydd bydd modd i’r elusen sicrhau ffrydiau incwm masnachol a phreifat newydd. Bydd mwy o gyfle i recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi asedau treftadaeth, amgylcheddol ac amwynder y dyfrffyrdd, gan leihau’r cyllid cyhoeddus hirdymor.

 

Materion Cymhwysedd

 

10. Pennwyd Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain yn gorff cyhoeddus at ddibenion Rhan 2 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 drwy erthygl 2 ac Atodlen Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898). Fel corff cyhoeddus o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, mabwysiadodd Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain Gynllun Iaith Gymraeg. 

 

11.     Effaith erthygl 2 y gorchymyn yw trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd. Hefyd, effaith erthygl 2 yw gofyn i’r cyfeiriadau at Fwrdd Dyfrffyrdd Prydain mewn is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan, neu drwy rinwedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, gael eu darllen mewn perthynas â Chymru a Lloegr fel cyfeiriadau at yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

 

12. Ym marn Llywodraeth Cymru, mae erthygl 2 yn cynnwys darpariaeth ynghylch y Gymraeg. Oherwydd bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â’r Gymraeg, barn Llywodraeth Cymru yw bod erthygl 2, fel y mae’n berthnasol i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn gwneud darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol pe bai’n rhan o un o Ddeddfau’r Cynulliad Cenedlaethol. 

 

13. Effaith erthygl 3 y gorchymyn yw trosglwyddo nifer o swyddogaethau o Fwrdd Dyfrffyrdd Prydain i’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd. Nid yw’r swyddogaethau sy’n cael eu trosglwyddo yn cynnwys swyddogaethau ymgymerydd statudol o dan Ran 10 Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980. Yn ôl y gyfraith fel ag y mae ar hyn o bryd, mae Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain yn ymgymerydd statudol at y dibenion hyn. Felly mae’r rheolaethau yn gymwys dros y tir y mae’n ei ddal, fel yr amlinellir yn Rhan 10. Pan fydd y Gorchymyn yn dod i rym, effaith y ddarpariaeth yw na fydd y rheolaethau hynny yn gymwys i dir y bydd yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn ei ddal.

 

14. Ym marn Llywodraeth Cymru, diben y ddarpariaeth benodol hon yw rheoleiddio tir y mae corff cyhoeddus yn ei ddal. Oherwydd bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwysedd mewn perthynas â chefn gwlad a mannau agored, gan gynnwys dynodi a rheoleiddio parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol (maes 7 yn Atodlen 7 Deddf Llywodraeth Cymru 2006), datblygu trefol (maes 18), a chymhwysedd mewn perthynas ag adfer tir diffaith a gwella’r amgylchedd (maes 4), barn Llywodraeth Cymru yw bod y ddarpariaeth benodol hon yn berthnasol i gymhwysedd y Cynulliad mewn nifer o feysydd.

 

Manteision defnyddio’r Gorchymyn hwn

 

15.Ym marn Llywodraeth Cymru, y Gorchymyn hwn yw’r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf priodol a chymesur i weithredu’r cynigion hyn yng Nghymru, fel bod swyddogaethau Dyfrffyrdd Prydain yn cael eu trosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd cyn gynted â phosibl.

 

Goblygiadau Ariannol

 

16.     Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol i Gymru yn sgil y Gorchymyn hwn.

 

John Griffiths AC

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy